Val Feld’s plaque, the first Purple Plaque in Wales, is located on the Senedd building in Cardiff Bay, and was unveiled by her daughters and granddaughters on 6th March 2018.

Val was born Valerie Breen Turner in Bangor on 29 October 1947 and died in Swansea on 17 July 2001.

She was one of the most highly regarded members of the National Assembly for Wales across the political spectrum, as one of the leading architects of devolution, achieved in 1997. She promoted women’s participation in Welsh politics. At the time the Welsh Cabinet was the first in the world to have a majority of women members, which was remarkable in a very traditional, macho political culture.

Val became the first Director of Shelter Cymru in 1981, independent from the English organisation for the first time. After completing a Women’s Studies course in Cardiff, she was appointed Director of the Equal Opportunities Commission in Wales. Val was instrumental in ensuring that the Government of Wales Act 1998 included clauses requiring due regard to equal opportunities.

All Val’s work was underpinned by her commitment to equality and social justice, and she was a powerful force for women and minority groups, including Swansea Women’s Centre, Jazz Heritage Wales, Women’s Archive of Wales, Multi Ethnic Women’s Network (MEWN Swansea) and Chwarae Teg.

Mae plac Val Feld, Plac Porffor cyntaf Cymru, a ddadorchuddiwyd ar 6ed Mawrth, 2018 gan ei merched a’i hwyresau, ar adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.

Ganed Valerie Breen Turner ym Mangor ar 29ain Hydref 1947, a bu farw yn Abertawe 17eg Gorffennaf 2001.

Val oedd un o’r aelodau uchaf ei pharch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a hynny ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol, ac roedd yn un o brif benseiri datganoli a gyflawnwyd ym 1997. Hyrwyddodd gyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Ar y pryd, Cabinet Cymru oedd y cyntaf yn y byd lle’r roedd y mwyafrif o’r aelodau yn fenywod, peth nodedig iawn o ystyried diwylliant gwleidyddol traddodiadol a gwrywaidd iawn Cymru.

Ym 1981 daeth Val yn Gyfarwyddydd cyntaf Shelter Cymru fel sefydliad Cymreig, yn annibynnol ar y sefydliad yn Lloegr. Ar ôl cwblhau cwrs mewn Astudiaethau Menywod yng Nghaerdydd, penodwyd Val yn Gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru. Bu’n allweddol yn y gwaith o sicrhau bod Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn cynnwys cymalau yn rhoi sylw dyledus i faterion cyfleoedd cyfartal.

Roedd ei hymrwymiad i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd holl waith Val, ac roedd yn rym nerthol i fenywod a grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys Canolfan Menywod Abertawe, Treftadaeth Jazz Cymru, Archif Menywod Cymru, Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig (MEWN Abertawe) a Chwarae Teg.