



Wales’ 13th Purple Plaque is for Aberdare-born Rose Davies, a prominent campaigner and leading Valleys politician who became the first woman to be elected to – and then to chair – Glamorgan County Council. The prestigious Purple Plaque will mark Rose’s achievements as one of the leading Labour women in Wales in the first half of the 20th Century.
As a ‘practical socialist’ and contemporary of Keir Hardie, Rose Davies strived for social justice to improve life for the people of her community in Aberdare. She wanted equality for women, proposed a birth control clinic and had a particular interest in the needs of children with physical disabilities and additional educational needs. She was concerned with child health, maternity health, housing and many other issues.
Rose was also a prominent peace campaigner and formally proposed the Welsh Women’s Peace Petition at a special conference in Aberystwyth in May 1923 and was the co-local organiser of the petition for Aberdare. The centenary of the 400,000-signature Peace Petition is currently being celebrated this year.
Plac Porffor 13 yw Rose Davies, un o fenywod mwyaf blaenllaw y mudiad llafur yng Nghymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, a aned yn Aberdâr. Daeth Rose yn ymgyrchydd addysg amlwg ac yn wleidydd lleol blaenllaw yn Ne Cymru, a hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol i – ac yna i gadeirio – Cyngor Sir Forgannwg.
Fel ‘sosialydd ymarferol’ gweithiodd dros sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac er gwella bywydau pobl ei chymuned a’i hardal. Roedd o blaid cydraddoldeb i fenywod a chreu gwasanaeth cynllunio teuluol ac roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn diwallu anghenion addysgol plant ag anableddau corfforol ac anghenion addysgol ychwanegol. Roedd ei hymgyrchoedd yn ymwneud â iechyd plant a mamolaeth, tai ac amodau byw a llawer o faterion eraill.
Dechreuodd Rose ymwneud â gwleidyddiaeth trwy ei gwaith fel athrawes ac fel aelod o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Athrawon Benywaidd oddi mewn i Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Ymunodd â’r Blaid Lafur Annibynnol a daeth yn ffrindiau â’r AS lleol, Keir Hardie.
Roedd Rose hefyd yn ymgyrchydd heddwch amlwg . Hi oedd cynigydd ffurfiol menter Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn y gynhadledd arbennig a gynhaliwyd yn Aberystwyth ym mis Mai 1923 a hi oedd cyd-drefnydd lleol y ddeiseb yn ardal Aberdâr. Mae Cymru’n dathlu canmlwyddiant y Ddeiseb oedd â 400,000 o lofnodion arni ar hyn o bryd.
Gwasanaethodd Rose ar lawer iawn o gyrff cyhoeddus a hi oedd y fenyw gyntaf i ddal nifer o nifer o swyddi amlwg, ond un o’i llwyddiannau mwyaf nodedig oedd cael ei henwebu i fynychu cyfarfod o Gynghrair y Cenhedloedd yng Ngenefa ym 1930.