© Board of Trustees, Royal Botanic Gardens, Kew 
© Board of Trustees, Royal Botanic Gardens, Kew 

Wales’ 26th Purple Plaque to Victorian mycologist Mary Lloyd Wynne, was unveiled at St Michael’s Church, Betws-yn-Rhos, Conwy on Thursday 24th September 2026.

Mary was an extraordinary botanist and illustrator, associated with the leading experts of the period and her illustrations of fungi species are housed in the library and archive of the Royal Botanic Gardens Kew. There are 71 of Mary’s drawings and paintings in Kew, and many of her specimans are in the Berkeley and Broome Fungarium.

Mary married North Wales landowner John Lloyd Wynne of Coed Coch, Denbighshire in 1833 and it was while living at Coed Coch that her interest in fungi developed. The estate, near Betws-yn-Rhos, turned out to be the one of the richest mycological sites in North Wales* and was the ideal breeding ground for fungi thanks to its high rainfall and landscaped wooded areas.

She hosted Fungus Forays as the term was being invented, with the Woolhope Club, early fungologists as they then were known. These involved the leading mycologists of the day, including from France.

As a self-starter in mycology she was respected as an equal in the man’s world of the Woolhope Club that met in Hereford and preceded the founding of the British Mycological Society in 1896. Miles Berkeley (1803–1889) is widely recognised as being one of the founders of British mycology and he visited her home because she was already organising forays there. He listed Coed Coch as a site for some 30 of the ‘above a thousand’ species of macrofungi treated in his 1860 Outlines of British Fungology.

Significantly he dedicated that whole work to her “as a small tribute to the zeal with which she has studied the numerous fungi of her beautiful country”. She has at least five mushroom species named after her and one or possibly two gerera, including the Marasmius wynneae (‘Pearly Parachute’).

The nomination was based on this article by John Edmondson, and Field Mycology Vol 23 (2).

Purple Plaques Wales is grateful to the British Mycological Society and for local mycological groups for supporting the Purple Plaque for Mary Lloyd Wynne.

Cafodd 26ain Plac Porffor Cymru er cof am y mycolegydd Fictoraidd Mary Lloyd Wynne, ei ddadorchuddio yn Eglwys Sant Mihangel, Betws-yn-Rhos, Conwy ar ddydd Iau 24 Medi 2026.

Roedd Mary yn fotanegydd a darlunydd anhygoel a oedd yn gysylltiedig ag arbenigwyr blaenllaw’r cyfnod, ac mae ei darluniadau o rywogaethau ffwng wedi’u cadw yn llyfrgell ac archif Gerddi Botanegol Brenhinol Kew. Ceir 71 o ddyluniadau a phaentiadau Mary yn Kew, ac mae llawer o’i samplau i’w gweld yng nghasgliad ffyngau Berkeley a Broome.

Priododd Mary â’r tirfeddiannwr John Lloyd Wynne o Goed Coch, Sir Ddinbych ym 1833, a datblygodd ei diddordeb mewn ffwng yn ystod ei hamser yn byw yno. Fel y digwyddodd, yr ystâd ger Betws-yn-Rhos oedd un o’r safleoedd cyfoethocaf ei fycoleg yng ngogledd Cymru*, ac roedd yn ardal fridio ddelfrydol ar gyfer ffwng oherwydd yr holl law a ddisgynnai yno a’r ardaloedd coediog ar dirwedd yr ystâd.

Cynhaliodd Mary helfeydd ffwng (Fungus Forays) wrth i’r term hwnnw gael ei fathu, gyda Chlwb Woolhope, neu’r ‘ffwngolegwyr’ cynnar fel y’u hadnabuwyd y pryd hwnnw. Roedd y clwb yn cynnwys mycolegwyr blaenllaw’r cyfnod, gan gynnwys rhai o Ffrainc.

Fel hunan-ddechreuwr ym maes mycoleg, cafodd Mary ei pharchu a’i thrin yn gydradd gan y dynion yng Nghlwb Woolhope a oedd yn cyfarfod yn Henffordd, cyn i Gymdeithas Mycoleg Prydain gael ei sefydlu ym 1896. Mae Miles Berkeley (1803 – 1889) yn adnabyddus fel un o sylfaenwyr mycoleg Prydain a byddai’n ymweld â chartref Mary gan ei bod hi eisoes yn trefnu helfeydd yno. Rhestrodd Berkeley Coed Coch fel safle ar gyfer oddeutu 30 o’r ‘ dros fil’ o rywogaethau o’r macro-ffyngau y soniodd amdanynt yn ei gyfrol Outlines of British Fungology ym 1860. Mae’n arwyddocaol ei fod wedi cyflwyno’r y gwaith hwnnw i Mary ‘fel teyrnged fechan i’r brwdfrydedd a ddangosodd wrth astudio ffyngau niferus ei gwlad hardd’.

Enwyd o leiaf pum rhywogaeth o fadarch ar ôl Mary, yn ogystal ag un genws, neu ddau o bosib, gan gynnwys y Marasmius wynneae (‘Parasiwt Perlog‘).

Roedd yr enwebiad yn seiliedig ar yr erthygl hon gan John Edmondson, a Field Mycology, Cyfrol 23 (2).

Mae Placiau Porffor Cymru yn ddiolchgar i Gymdeithas Mycoleg Prydain ac i grwpiau mycoleg lleol am gefnogi’r Plac Porffor ar gyfer Mary Lloyd Wynne.