Wales’ fifth Purple Plaque to Eunice Stallard, veteran Peace Campaigner, was unveiled by family members at The Welfare Hall, Ystradgynlais as part of International Women’s Day celebrations on 6 March 2020.
A fiercely political and passionate figure in the community, Eunice was one of the founders of Greenham Common’s women’s peace camp in 1981, fighting for the disarmament of nuclear weapons. With a group of women, she marched 100 miles from Cardiff to Newbury where they chained themselves to the fences of RAF Greenham. The women created a worldwide impact and the camp remained active for 19 years.
The part Eunice played in the Women for Life on Earth group inspired many others to get involved in the fight against nuclear bombing. She was also part of the ‘Grannies for Peace’ group later in her life, who gathered at RAF Fairford in 2003 to protest against the Iraq War. A firm believer that more women in politics would lead to greater peace, at the time she said: “It’s heart-breaking what they’re doing. What we need is more women in government, women wouldn’t send their children to war.”
Eunice passed away in 2011 at 93 having lived around the Ystradgynlais area her whole life and owning a shop in the community. She was also involved in many Labour party activities which took place at the Miners Welfare Hall.
Dadorchuddiwyd pumed Plac Porffor Cymru i gofio’r ymgyrchydd heddwch brofiadol Eunice Stallard yn Neuadd Lês y Glöwyr, Ystradgynlais gan aelodau ei theulu fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, 6 Mawrth, 2020.
Cymeriad gwleidyddol angerddol a thanllyd yn ei chymuned, roedd Eunice yn un o sefydlwyr gwersyll heddwch menywod Comin Greenham yn 1981 yn brwydro dros ddiarfogi arfau niwclear. Gyda grŵp o fenywod eraill, ymdeithiodd dros gan milltir o Gaerdydd i Newbury a chlymu ei hunan i ffens canolfan yr RAF yno. Crëwyd effaith fyd-eang gan weithred y menywod a bu’r gwersyll yno am 19 o flynyddoedd.
Ysbrydolwyd eraill i ymuno â’r frwydr yn erbyn bomio niwclear gan y rhan a chwaraeodd Eunice yn y grŵp Menywod Dros Fywyd ar y Ddaear. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o’r grŵp ‘Grannies for Peace’, a bu yn RAF Fairford yn 2003 i brotestio yn erbyn Rhyfel Irac. Roedd hi’n grediniol y byddai cael mwy o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn arwain at fyd mwy heddychlon, ac ar y pryd dywedodd, ‘Mae’n dorcalonnus beth ma’ nhw’n ei wneud. Yr hyn sydd angen arnon ni yw rhagor o fenywod yn y llywodraeth; byddai menywod ddim yn anfon eu plant i ryfel’.
Bu farw Eunice yn 2011 yn 93 mlwydd oed. Roedd wedi byw yn ardal Ystradgynlais drwy gydol ei bywyd ac yn berchen ar siop yn y gymuned. Roedd hi hefyd yn ymwneud â llawer o weithgareddau gyda’r Blaid Lafur a fyddai’n digwydd yn Neuadd Lês y Glöwyr.