Plaque / Plac 24

May / Mai 1, 2026

Barry, Vale of Glamorgan

Y Barri, Bro Morgannwg

Wales’ 24th Purple Plaque marks the life of a ‘forceful’ Barry woman who improved the lives of women in her docks community.

Copyright: Family photo

Wales’ 24th Purple Plaque was unveiled in Barry, Vale of Glamorgan, on Friday May 1st to mark the achievements of Beatrice Lewis. Beatrice was a working class woman who came from a life of hardship as the wife of a ‘coal trimmer’* to become the first woman ever elected as a councillor in Barry, Vale of Glamorgan in 1919.

Before Beatrice, working class women in Barry had had no voice and no one to speak up for them.

Beatrice changed things. Her obituary described her as, “one of the leading women of the Socialist party of South Wales, who almost single handedly championed the establishment of a maternity clinic in Barry. She was progressive in thought and action, forceful in debate and commanded the respect of her fellow councillors.”

Born in Ely in 1877, one of nine children, both her father and husband were coal trimmers – these were dirty and dangerous jobs. It was a world where women were left at home to do the hard domestic labour and look after large families. Beatrice married at age 20 and moved to the docks area of Barry, where poverty and disease were rife.

Beatrice saw the problem at first hand – in one month alone, 22 babies under one year died and infant mortality was rising rapidly – and set about finding a solution.

Beatrice campaigned to improve maternity provision, against the opposition of her male colleagues, and highlighted cruel means testing of pregnant and nursing mothers. She championed the establishment of a maternity clinic in Barry. Women turned up at her door and she fed them. She organised a soup kitchen and led the relief committee for the 1926 General Strike.

She sat on committees covering health, education, housing and child welfare and was instrumental in improving maternity services for Barry women. Beatrice understood the community she represented and spoke up for those without a voice.

Beatrice died in 1929 aged 52, leaving five surviving children.

Mae 24ain Plac Porffor Cymru yn nodi bywyd menyw gref a phenderfynol o’r Barri a weithiodd i wella bywydau menywod yn ei chymuned yn ardal y dociau yno.

Dadorchuddiwyd y 24ain o blith Placiau Porffor Cymru yn y Barri ddydd Gwener Mai 1af, i nodi cyflawniadau Beatrice Lewis. Roedd Beatrice yn fenyw dosbarth gweithiol ac yn byw bywyd caled fel gwraig i ‘drimiwr glo’*yn y dociau, ond er hynny hi oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei hethol yn gynghorydd tref yn y Barri, Bro Morganwg ym 1919.

Cyn ethol Beatrice, doedd gan fenywod dosbarth gweithiol yn y Barri ddim llais na neb i siarad drostyn nhw.

Newidiodd Beatrice bethau. Disgrifiwyd hi mewn teyrnged fel, “un o brif fenywod Plaid Sosialaidd De Cymru, a hyrwyddodd sefydlu clinig mamolaeth yn y Barri, ar ei phen ei hun bron â bod. Roedd hi’n flaengar o ran meddwl a gweithred, yn gryf mewn dadl ac yn ennyn parch ei chyd-gynghorwyr.”

Ganwyd hi yn Nhrelai, Caerdydd ym 1877, yn un o naw o blant. Roedd ei thad a’i gŵr yn gweithio yn y dociau yn llwytho glo i’r llongau – gwaith brwnt iawn a pheryglus. Ar y pryd roedd y rhan fwyaf o fenywod wedi eu clymu i’w cartrefi yn gwneud gwaith tŷ diddiwedd a chaled ac yn gofalu am deuluoedd mawr. Priododd Beatrice yn 20 oed a symudodd i ardal dociau’r Barri, lle’r oedd tlodi a chlefydau’n rhemp.

Daeth Beatrice yn ymwybodol o’r problemau o brofiad uniongyrchol – mewn un mis yn unig, bu farw 22 o fabanod o dan flwydd oed ac roedd niferoedd marwolaethau babanod yn codi’n gyflym. Felly dyma hi’n mynd ati i geisio dod o hyd i ateb.

Ymgyrchodd Beatrice i wella darpariaeth mamolaeth, er gwaethaf gwrthwynebiad ei chydweithwyr gwrywaidd ar Gyngor y Dref, a thynnodd sylw at y Profion Modd creulon ar famau beichiog a mamau newydd. Gweithiodd yn ddiflino er mwyn sefydlu clinig mamolaeth yn y Barri. Byddai menywod tlawd yn dod at ddrws ei chartref a byddai hi’n eu bwydo nhw. Yn ystod Streic Fawr 1926, trefnodd gegin gawl i fwydo’r gymuned ac arweiniodd y pwyllgor cymorth lleol.

Bu’n aelod o bwyllgorau iechyd, addysg, tai a lles plant y Cyngor ac roedd yn allweddol wrth wella gwasanaethau mamolaeth i fenywod y Barri. Roedd Beatrice yn deall y gymuned yr oedd yn ei chynrychioli ac yn siarad dros y rheini heb lais.

Bu farw Beatrice ym 1929 yn 52 oed, gan adael pump o blant a’i goroesodd hi.