Wales’ third Purple Plaque honours Megan Lloyd George, the first female MP for a Welsh constituency, with a plaque at her family’s one-time home in Cricieth, now Bryn Awelon Nursing Home. It was unveiled by members of her family on 11, October 2019, International Day of the Girl.
Megan Lloyd George became the first female MP for a Welsh constituency, Anglesey, from 1929-1951 and later Carmarthen from 1957-1966. Throughout this time she championed women in significant ways.
During her maiden speech she spoke about rural housing and the impact that poor housing was having on women on Anglesey, such as the higher death rate from TB among women compared with men.
She campaigned for equal pay and demanded that the Government did more to give women a responsible role in the war effort.
She was also a member of the National Eisteddfod’s Gorsedd of Bards (1935) and the President of the Parliament for Wales campaign of the early 1950s.
Mae trydydd Plac Porffor Cymru yn anrhydeddu Megan Lloyd George yr AS benywaidd cyntaf i gynrychioli sedd yng Nghymru. Dadorchuddiwyd y plac gan aelodau o’i theulu yng nghyn-gartref y teulu yng Nghricieth, Cartref Nyrsio Bryn Awelon erbyn hyn, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch, 11, Hydref 2019.
Megan Lloyd George oedd yr AS benywaidd cyntaf i gynrychioli etholaeth Gymreig, sef Ynys Môn, o 1929-1951 ac yn ddiweddarach, Caerfyrddin, o 1957-1966. Drwy gydol y cyfnod hwn, bu’n hyrwyddo menywod mewn ffyrdd arwyddocaol.
Yn ystod ei haraith gyntaf yn y Senedd, soniodd am dai gwledig a’r effaith yr oedd tai gwael yn ei gael ar fenywod ar Ynys Môn, megis y gyfradd uwch o farwolaethau o ganlyniad i’r Diciàu ymhlith menywod o’u cymharu â dynion.
Ymgyrchodd dros gyflog cyfartal a mynnodd fod y Llywodraeth yn gwneud mwy i roi rôl gyfrifol i fenywod yn ystod ymdrech y rhyfel.
Roedd hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol (1935) ac yn Llywydd ar ymgyrch Senedd i Gymru ar ddechrau’r 1950au.