Purple Plaques was launched on International Women’s Day 2017, by a group of volunteers who felt the need for more recognition for the contribution women make to Welsh life.

The campaign aims to shine a light on women’s achievements by improving the recognition of remarkable women in Wales. The award of a Purple Plaque will showcase and honour women across Wales. These Welsh women will have made an impact in Wales or beyond and may previously have gone uncelebrated or have been left out of the history books entirely.

There are currently an estimated 250 mainly blue plaques commemorating notable figures in Wales, and only a few of these are female. Purple Plaques aims to address this inequality and give women a prominent place in history.

The Purple Plaques Wales Committee is an independent group of volunteers, currently intending to seek funding, and working together with communities and the public to carry out our aims.

It is hoped that people all over Wales will see this as an opportunity to remember and honour our remarkable women. We invite the public to propose remarkable Welsh women for consideration of a Purple Plaque.  Details can be found by using the appropriate button.

Lansiwyd y Placiau Porffor ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 gan grŵp o wirfoddolwyr a oedd yn gweld yr angen am well cydnabyddiaeth o gyfraniad menywod i fywyd Cymru.

Amcan yr ymgyrch yw gwella’r ffordd mae menywod nodedig yn cael eu cydnabod drwy ddyfarnu Plac Porffor i amlygu ac anrhydeddu menywod ledled Cymru. Bydd y menywod Cymreig hyn wedi gwneud argraff a chael effaith yng Nghymru neu’n ehangach, ac o bosib heb eu dathlu hyd yma neu wedi eu hepgor o’r llyfrau hanes yn gyfangwbl.

Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod tua 250 o blaciau glas yn bennaf yn coffáu unigolion nodedig yng Nghymru, ond prin yw’r rheini sy’n dathlu menywod. Nod y Placiau Porffor yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwn a rhoi lle blaenllaw i fenywod yn ein hanes.

Grŵp o wirfoddolwyr annibynnol yw Pwyllgor Placiau Porffor Cymru sy’n bwriadu chwilio am gyllid, ac yn gweithio gyda chymunedau a’r cyhoedd ar hyn o bryd er mwyn cyflawni’n hamcanion.

Y gobaith yw y bydd pobl o bob cwr o Gymru’n gweld hyn fel cyfle i gofio ac anrhydeddu ein menywod nodedig. Rydym yn gwahodd y cyhoedd i gynnig enwau menywod Cymreig nodedig i’w hystyried ar gyfer derbyn Plac Porffor. Ceir manylion drwy ddefnyddio’r botwm priodol.